Busnes gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain Lefel 3 - Diploma
Trosolwg
Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio nifer o swyddogaethau busnes gan gynnwys dadansoddi ariannol, marchnata digidol, marchnadoedd ariannol, arian a bancio, busnes rhyngwladol, rheoli digwyddiadau, rheoli adnoddau dynol, a marchnata.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cymhwyster proffesiynol Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain (LIBF) sy’n rhoi cyflwyniad ardderchog i faes gwasanaethau a chyngor ariannol.
Mae’r cymhwyster hwn yn gyfwerth ag astudio pedwar cwrs Safon Uwch.
Amcanion y Cwrs:
- Deall egwyddorion Bancio a Chyllid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
- Datblygu ymgyrch marchnata digidol llawn
- Cynhyrchu cynllun busnes a phresenoldeb ar-lein
- Nodi sut i reoli pobl, prosiectau ac adnoddau
- Cynllunio digwyddiadau gan ddefnyddio strategaethau marchnata digidol a thraddodiadol.
Canlyniadau’r Cwrs:
- Bydd myfyrwyr yn gallu egluro sut mae bancio busnes yn datblygu trwy amhariad digidol
- Defnyddio strategaethau marchnata digidol i ddiwallu amcanion marchnata
- Bydd myfyrwyr yn ennill y rhinweddau i redeg eu busnes eu hunain
- Bydd myfyrwyr yn gallu argymell atebion busnes i broblemau rheolwyr a gweithwyr
- Bydd myfyrwyr yn gallu cynllunio, costio a chymryd rhan mewn digwyddiad busnes.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf bum gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith
- Neu broffil Teilyngdod mewn BTEC Busnes Lefel 2 a TGAU Saesneg Iaith.
- Unedau a asesir yn fewnol
- Unedau asesu dan reolaeth a asesir yn allanol
- Uned arholiad a asesir yn allanol.
Asesu:
- Arholiadau ysgrifenedig ac amlddewis
- Aseiniadau rhaglennu.
Meini Prawf Graddio:
- Asesu mewnol (58%)
- Asesu allanol (42%).
Asesir unedau gan ddefnyddio graddfa Rhagoriaeth (D), Teilyngdod (M), Pasio (P). Mae cymwysterau’n cael eu graddio gan ddefnyddio graddfa PP i D*D*. Mae cymhwyster proffesiynol Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain yn cael ei raddio A-E.
Gallech chi aros yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i ddilyn cwrs Addysg Uwch cysylltiedig â rheoli busnes neu gyfrifeg. Bydd cwblhau’r cwrs BTEC Busnes gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain yn llwyddiannus yn rhoi pwyntiau UCAS i ddysgwyr ac mae’n cael ei gydnabod gan brifysgolion ar gyfer cyrsiau gradd anrhydedd llawn.
Cyflogaeth: Bydd y cwrs yn gwella rhagolygon myfyrwyr o gael mynediad i’r sector ariannol, marchnata digidol a rheoli busnes.