Skip to main content

Microgymhwyster mewn Technolegau Ynni Adnewyddadwy

Rhan-amser
Lefel 4
SwanU
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae’r Microgymhwyster mewn Ynni Adnewyddadwy yn fodiwl Lefel 4, 20 credyd, sydd yn gymhwyster annibynnol. Nod y cymhwyster yw rhoi dealltwriaeth systematig o wybodaeth, problemau a mewnwelediadau cyfredol ym maes technoleg ynni adnewyddadwy.

Bydd pob technoleg yn cael ei archwilio o ran yr egwyddorion ffisegol perthnasol, y prif dechnolegau dan sylw, eu costau, eu heffaith amgylcheddol, maint yr adnodd adnewyddadwy posibl, yn ogystal â’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.  

Canlyniadau dysgu’r cymhwyster yw:

  • Cael gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau sefydledig technolegau ynni adnewyddadwy, asesu’r systemau ynni adnewyddadwy sydd ar gael, dylunio a dewis dulliau casglu a storio priodol, yn ogystal ag optimeiddio a gwerthuso dyluniadau systemau
  • Caffael a datblygu sgiliau ymarferol er mwyn dylunio systemau gwahanol a dadansoddi a rhagfynegi ei berfformiad. Gwerthuso perfformiad cyffredinol y systemau a dangos buddion y technolegau hyn
  • Datblygu’r gallu i gymhwyso’r wybodaeth hon yn ymarferol, yn enwedig ar gyfer systemau solar thermol, solar ffotofoltäig a gwynt

Gwybodaeth allweddol

Mae cyfuniadau o’r cymwysterau isod yn dderbyniol, a gallem dderbyn cymwysterau eraill heb eu rhestru hefyd ar sail unigol:

  • Cynnig Safon Uwch arferol: DD
  • Cynnig BTEC arferol: proffil BTEC Lefel 3 perthnasol Teilyngdod/Pasio neu Basio/Pasio/Pasio
  • Cynnig Bagloriaeth Cymru arferol: Gradd C a DE ar lefel Safon Uwch
  • Cynnig Mynediad i AU arferol: Diploma Pasio gyda chyfanswm o 60 credyd gan gynnwys 45 credyd Lefel 3, graddau pasio i gyd

Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar gymwysterau mynediad sylfaenol arferol, e.e. myfyrwyr hŷn â phrofiad cyflogaeth perthnasol, yn cael eu hystyried ar sail unigol gan arweinydd y rhaglen ac aelodau eraill o dîm y rhaglen.

Addysgir y cymhwyster dros 25 awr gyswllt a 15 awr ar-lein.

Bydd y sesiynau yn cael eu torri i lawr fel a ganlyn:

  • Un diwrnod (saith awr) fel cyflwyniad ar ddechrau’r microgymhwyster
  • Un diwrnod (saith awr) yng nghanol y cwrs
  • Un diwrnod (saith awr) tua diwedd y cwrs 
  • Bydd dwy sesiwn tiwtorial dwy awr ar gael ar-lein
  • Bydd 15 awr olaf y cwrs yn waith ar-lein y bydd myfyrwyr yn gwneud eu ffordd trwyddo rhwng oriau cyswllt.
  • Bydd disgwyl i chi astudio yn eich amser eich hun er mwyn cwblhau’r cymhwyster hwn

Asesu

Asesir y cymhwyster trwy’r tri asesiad canlynol:

  • Aseiniad ysgrifenedig 1,000 gair 
  • Trafodaeth 10 munud
  • Adroddiad 1,500 gair, gyda chyflwyniad 10 munud

Mae’r microgymhwyster hwn yn gymhwyster annibynnol i weithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant neu sy’n anelu at weithio yn y diwydiant. Mae microgymwysterau eraill ar gael y gallwch wneud cais amdanynt yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Abertawe.

Costau’r cwrs  

£750 ond mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael i’r rhai sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe.

Ffioedd ychwanegol

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn:

Teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
Llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cof bach).

Cysylltu

Ffôn: Tîm Addysg Uwch 01792 284098

E-bost: he@gcs.ac.uk