Skip to main content

Microgymhwyster mewn Trin Dŵr Gwastraff: Egwyddorion ac Arferion

Rhan-amser
Lefel 4
SwanU
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae’r Microgymhwyster mewn Trin Dŵr Gwastraff yn fodiwl Lefel 4, 20 credyd, sydd yn gymhwyster annibynnol. Mae’r cymhwyster yn datblygu gwybodaeth a sgiliau mewn trin dŵr gwastraff er mwyn rhoi modd i ddysgwyr fod yn ymarferwyr dŵr proffesiynol cymwys.

Nod y cymhwyster yw:

  • Darparu digon o bwyntiau dysgu er mwyn rhoi modd i’r dysgwr fod yn ymarferydd dŵr proffesiynol, cymwys
  • Cynorthwyo’r myfyriwr i ddatblygu’r sgiliau cymwys sydd eu hangen yn y diwydiant trin dŵr

Canlyniadau dysgu’r cymhwyster yw:

  • Egluro’r gyfraith a’r ddeddfwriaeth amgylcheddol gysylltiedig â rheoli dŵr gwastraff
  • Egluro termau gwyddonol sylfaenol megis cemegau organig ac anorganig, unedau SI a thrawsnewidiadau unedau syml
  • Deall nodweddion dŵr gwastraff o ran elifion carthion ac elifion wedi’u trin 
  • Cyfleu’r prosesau allweddol cysylltiedig â thrin dŵr gwastraff gan gynnwys rheoli llaid ac elifion masnach

Gwybodaeth allweddol

Mae cyfuniadau o’r cymwysterau isod yn dderbyniol, a gallem dderbyn cymwysterau eraill heb eu rhestru hefyd ar sail unigol:

  • Cynnig Safon Uwch arferol: DD
  • Cynnig BTEC arferol: proffil BTEC Lefel 3 perthnasol Teilyngdod/Pasio neu Basio/Pasio/Pasio
  • Cynnig Bagloriaeth Cymru arferol: Gradd C a DE ar lefel Safon Uwch
  • Cynnig Mynediad i AU arferol: Diploma Pasio gyda chyfanswm o 60 credyd gan gynnwys 45 credyd Lefel 3, graddau pasio i gyd

Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar gymwysterau mynediad sylfaenol arferol, e.e. myfyrwyr hŷn â phrofiad o gyflogaeth berthnasol, yn cael eu hystyried ar sail unigol gan arweinydd y rhaglen ac aelodau eraill o dîm y rhaglen.

Addysgir y cymhwyster dros 25 awr gyswllt a 15 awr ar-lein.

Bydd y sesiynau’n cael eu torri i lawr fel a ganlyn:

  • Un diwrnod (saith awr) fel cyflwyniad ar ddechrau’r cwrs
  • Un diwrnod (saith awr) yng nghanol y cwrs
  • Un diwrnod (saith awr) tua diwedd y cwrs a fydd yn cynnwys ymweliad â chyfleuster rheoli dŵr gwastraff
  • Bydd dwy sesiwn tiwtorial dwy awr ar gael ar-lein
  • Bydd 15 awr olaf y cwrs yn waith ar-lein y bydd myfyrwyr yn gwneud eu ffordd trwyddo rhwng oriau cyswllt y cwrs

Addysgir y cwrs ar-lein ac yn bersonol er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio ar lefel uwch.

Asesu

Asesir y cymhwyster trwy’r canlynol:

  • Asesiad ysgrifenedig o 2,000 o eiriau, i’w gwblhau hanner ffordd trwy’r cwrs
  • Asesiad wedi’i amseru ar ddiwrnod olaf y cwrs

Mae’r microgymhwyster hwn yn gymhwyster annibynnol i weithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant neu sy’n anelu at weithio yn y diwydiant. Mae microgymwysterau eraill ar gael y gallwch wneud cais amdanynt yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Abertawe. 

Costau’r cwrs  

£750 ond mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael i’r rhai sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe.

Ffioedd ychwanegol

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn:

Teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
Llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cof bach).

Cysylltu

Ffôn: Tîm Addysg Uwch 01792 284098

E-bost: he@gcs.ac.uk