Skip to main content

Beth i’w ddisgwyl ar y Diwrnod Canlyniadau

Mae Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones, yn cynnig cyngor i fyfyrwyr ar beth i’w ddisgwyl cyn, ac ar, y Diwrnod Canlyniadau.

Efallai fod dy arholiad terfynol yn teimlo fel atgof pell erbyn hyn ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn haf pleserus gobeithio. Mae’r Diwrnod Canlyniadau yn ein cyrraedd ac felly mae hi’n amser nawr i ymgymryd â’r her nesaf sef wynebu’r canlyniadau ar y darn o bapur ‘na.

Yn union fel miloedd o bobl ifanc ledled y wlad, efallai dy fod ti’n teimlo panig ac yn ofni ansicrwydd y dyfodol, ac mae hyn oll yn ddealladwy.

Y cwestiwn yw, beth alli di ei wneud nawr i helpu i leihau’r straen, a pharatoi dy hun ar gyfer un o ddiwrnodau mwyaf dy fywyd hyd yn hyn?

Yn gyntaf, os wyt ti’n nerfus neu’n bryderus, paid â chadw’r teimladau hyn i ti dy hun. Yn lle hynny, cer i siarad â dy deulu neu dy ffrindiau sydd yno i dy helpu di. Efallai dy fod yn teimlo nad oes neb arall yn teimlo’r un peth, ond byddet ti’n synnu i wybod faint o bobl o dy gwmpas sydd wedi bod trwy’r un profiad â ti. Mae hyn yn golygu y gallan nhw gynnig cymorth a chyngor defnyddiol.

Yn ail, cymer amser i wneud cynllun ar gyfer y Diwrnod Canlyniadau. Mae angen i ti wybod faint o’r gloch y dylet ti gasglu dy ganlyniadau a ble mae angen i ti fynd. Cadw rai rhifau ffôn wrth law – oherwydd os yw dy goleg, lle prifysgol, neu gynnig swydd yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniadau penodol, bydd angen i ti gadarnhau pethau yn syth bin. Neu, mae’n bosibl y byddi di am gadw rhif ffôn Clirio UCAS neu dy goleg lleol wrth law, rhag ofn na chei di’r canlyniadau roeddet ti’n eu disgwyl ac mae angen cymorth ychwanegol arnat ti. 

Yn drydydd, dwi’n gwybod bod hyn yn haws ei ddweud na’i wneud, ond cofia orffwys. Ar y Diwrnod Canlyniadau, mae angen i ti fod ‘ar dy orau’, mae cadarnhau dy le ac estyn llongyfarchiadau – neu gydymdeimladau – i dy ffrindiau yn gofyn am lawer o egni. Noson dda o gwsg y noson cynt yw’r ffordd orau o baratoi, ceisia osgoi’r cyfryngau cymdeithasol, oherwydd bydd pawb yn trafod yr un peth – y canlyniadau.

Yna, y Diwrnod Canlyniadau ei hun. Fy nghyngor allweddol yw peidio byth â chasglu dy ganlyniadau ar dy ben dy hun. Efallai nad wyt ti’n hoffi’r syniad o fynd â dy fam, dy dad neu dy frawd/chwaer hynaf gyda ti, ond maen nhw bob amser yn gallu aros i ti y tu allan neu yn y car. Os nad yw pethau yn dilyn y cynllun, bydd gennyt ti rywun yno sy’n gallu rhoi sylw llwyr i ti. Rhywun i helpu i gasglu’r wybodaeth sydd ei hangen arnat ti, asesu dy opsiynau, a helpu i feddwl am gynllun gweithredu. Mae dau ben bob amser yn well nag un a gallai’r cymorth hwn fod yn amhrisiadwy i ti. Wrth gwrs, yn y sefyllfa debygol y bydd popeth yn mynd yn iawn, gallan nhw fod yn rhan o dy ddathliadau di.

Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, os na chei di’r canlyniadau arholiadau roeddet ti’n gobeithio eu cael, PAID â mynd i banig. Bydd digon o opsiynau i ti eu hystyried o hyd. Cer i weld rhywun i drafod dy bryderon, yn ddelfrydol athro/athrawes neu gynghorydd gyrfaoedd sydd wedi dy gefnogi di yn ystod dy astudiaethau. Yr unigolyn hwnnw fydd yn y sefyllfa orau i dy helpu di, ar ôl rhoi cyngor tebyg i filoedd o fyfyrwyr cyn ti. 

Dyma ble mae Coleg Gŵyr Abertawe yn chwarae ei ran. Rydyn ni’n deall y llwybrau amrywiol hyn sydd ar gael i fyfyrwyr, oherwydd mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu darparu yn y Coleg. Rydyn ni’n adnabod timau derbyn prifysgolion a thimau recriwtio cyflogwyr sy’n gweithredu hefyd. Mae hyn yn rhoi modd i ni weithio gyda myfyrwyr i benderfynu ar y llwybr sy’n addas iddynt a chreu cynllun pwrpasol i’w helpu i wireddu eu huchelgeisiau a’u nodau unigol, ar gyflymdra sy’n gweddu orau iddynt.

Mae ein tiwtoriaid personol, ein tîm ymroddedig Rhaglen y Dyfodol, a’n hyfforddwyr gyrfa i gyd ar gael i drafod dy ganlyniadau ac awgrymu’r camau nesaf neu gyflogaeth bosibl a allai weithio i ti.

Pan fydd gennyt ti hyn oll ar waith ac rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus ynghylch sut mae’r diwrnod yn mynd, mae hi’n amser dala lan gyda dy ffrindiau a dy deulu, rhannu dy newyddion, a dathlu dy waith caled, ni waeth beth yw’r canlyniad.

Darllen rhagor: Sut i gael dy ganlyniadau arholiadau / cymwysterau Awst 2023